Head of Welsh Affairs / Pennaeth Materion Cymreig

Permanent
Full time - flexible working may be considered
35 hours
£52,000 - £55,000
Cardiff
External and Corporate Affairs

We are looking to recruit an experienced and credible public affairs professional to lead our engagement work in Wales.

The role

As our Head of Welsh Affairs, you will make a step change in our work in Wales. Over recent years we have made real progress as we work with key bodies, the Welsh law firms and solicitors we oversee and the public in whose interest we regulate. It’s now time to do more, to reach more people, to build on our use of the Welsh language and to support key initiatives such as our new Solicitors Qualifying Examination. You will develop our understanding of the Welsh policy and professional landscape, delivering a programme of strategic engagement with the legal profession, elected representatives, academics, regulators, and other stakeholders from every community, making sure our work as a regulator reflects any specific needs and requirements in Wales.

This new post will be part of our Public Affairs team, and as an experienced public affairs professional, will have excellent judgement and a thorough understanding of public policy-making processes in Wales and the workings of the Welsh Government and Parliament. You will be used to representing your organisation, comfortable handling enquiries, be familiar with using a range of communication channels, including programmes of events.

Ideally you will be able to communicate professionally in Welsh.

You will also be comfortable working autonomously and travelling to our offices in Birmingham or London, and meetings and events as and when needed.

What we can offer you:

  • A role helping promote the public interest by maintaining high professional standards for solicitors, protecting consumers and supporting access to justice
  • The opportunity for a talented public affairs professional to help shape and influence regulation in the country
  • The opportunity to develop our presence in Wales, including establishing an office base once current constraints allow

What we are looking for

  • Proven experience of effective engagement with key political and parliamentary stakeholders
  • Significant experience of successful stakeholder management in a complex and high-profile environment
  • Demonstrable experience of supporting staff at a senior level
  • First-class strategic communication and organisational skills
  • Experience of working with diverse groups and a clear commitment to equality, diversity and inclusion
  • The ability to communicate in Welsh, ideally.

Useful and additional information

If you are looking to strike a balance between your personal and professional life, we can discuss scope for flexible working arrangements prior to interview. 

If you have any questions that aren’t answered in the advert, additional documents or on our website, please contact us via: recruitment@sra.org.uk. 

There is a full role profile included at the bottom of this advert.

Our staff are currently working from home and all assessments are being conducted virtually.

If your application is successful one of the team will be in touch to let you know what to expect.

The successful candidate will be working from home for the foreseeable future and looking forward, there is scope for this role to be based from home for some days of the week.

Closing date of this advert is 11 April 2021 at 23:55. If you are interested, we encourage you to apply as soon as possible.

Interviews for this role are likely to be the week of 19 or 26 April 2021.

To apply

Please upload a CV and cover letter. In your cover letter, please address how your knowledge, skills and experience relate to the role requirements.



Rydym yn awyddus i recriwtio gweithiwr proffesiynol profiadol a chredadwy ym maes materion cyhoeddus i arwain ein gwaith ymgysylltu yng Nghymru.

Y rôl

Fel Pennaeth Materion Cymreig inni, byddwch yn creu newid sylweddol yn ein gwaith yng Nghymru. Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol wrth inni weithio gyda chyrff allweddol, ffyrmiau cyfraith Cymru a chyfreithwyr rydyn ni’n eu goruchwylio a'r cyhoedd rydyn ni’n rheoleiddio er eu lles. Erbyn hyn, mae’n bryd gwneud mwy, cyrraedd mwy o bobl, adeiladu ar ein defnydd o'r Gymraeg a chefnogi mentrau allweddol fel ein Harholiad Cymhwyso newydd i Gyfreithwyr. Byddwch yn datblygu’n dealltwriaeth o bolisi a thirwedd broffesiynol Cymru, gan ddarparu rhaglen o ymgysylltu strategol â'r proffesiwn cyfreithiol, cynrychiolwyr etholedig, academyddion, rheoleiddwyr a rhanddeiliaid eraill o bob cymuned, gan sicrhau bod ein gwaith fel rheoleiddiwr yn adlewyrchu unrhyw anghenion a gofynion penodol yng Nghymru.

Bydd y swydd newydd hon yn rhan o'n tîm Materion Cyhoeddus, ac fel gweithiwr proffesiynol profiadol ym maes materion cyhoeddus, bydd gennych farn ragorol a dealltwriaeth drylwyr o brosesau llunio polisi cyhoeddus yng Nghymru a gwaith Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru. Byddwch wedi arfer â chynrychioli’ch sefydliad, yn ymdrin ag ymholiadau'n gyffyrddus, ac yn gyfarwydd â defnyddio amryw o sianeli cyfathrebu, gan gynnwys rhaglenni digwyddiadau.

Yn ddelfrydol byddwch yn gallu cyfathrebu'n broffesiynol yn Gymraeg.

Byddwch hefyd yn gyffyrddus yn gweithio'n annibynnol ac yn teithio i'n swyddfeydd yn Birmingham neu Lundain, ac i gyfarfodydd a digwyddiadau yn ôl yr angen.

Yr hyn y gallwn ei gynnig i chi:

  • Rôl sy'n helpu i hybu’r budd cyhoeddus drwy gynnal safonau proffesiynol uchel i gyfreithwyr, amddiffyn defnyddwyr a chefnogi mynediad at gyfiawnder
  • Y cyfle i weithiwr proffesiynol dawnus ym maes materion cyhoeddus helpu i lunio a dylanwadu ar reoleiddio yn y wlad
  • Y cyfle i ddatblygu’n presenoldeb yng Nghymru, gan gynnwys sefydlu swyddfa pan fydd y cyfyngiadau presennol yn caniatáu hynny

Yr hyn rydyn ni’n chwilio amdano

  • Profiad cydnabyddedig o ymgysylltu'n effeithiol â rhanddeiliaid gwleidyddol a seneddol allweddol
  • Profiad sylweddol o reoli rhanddeiliaid yn llwyddiannus mewn amgylchedd cymhleth â phroffil uchel
  • Profiad amlwg o gefnogi staff ar lefel uwch
  • Sgiliau cyfathrebu strategol a threfnu o'r radd flaenaf
  • Profiad o weithio gyda grwpiau amrywiol ac ymrwymiad clir i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
  • Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg, yn ddelfrydol.

Gwybodaeth ddefnyddiol ac ychwanegol

Os ydych yn awyddus i daro cydbwysedd rhwng eich bywyd personol a phroffesiynol, gallwn drafod cyfle ar gyfer trefniadau gweithio hyblyg cyn y cyfweliadau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau nad ydyn nhw wedi’u hateb yn yr hysbyseb, y dogfennau ychwanegol neu ar ein gwefan, cysylltwch â ni drwy: recruitment@sra.org.uk

Mae proffil rôl llawn wedi'i gynnwys ar waelod yr hysbyseb hon.

Mae ein staff yn gweithio gartref ar hyn o bryd ac mae'r holl asesiadau'n cael eu cynnal yn rhithwir.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd un o'r tîm mewn cysylltiad i roi gwybod i chi beth i'w ddisgwyl.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gartref hyd y gellir rhag-weld ac yn y dyfodol mae lle i'r rôl hon gael ei lleoli gartref am rai dyddiau o'r wythnos.

Dyddiad cau'r hysbyseb hon yw 11 Ebrill 2021 am 23:55. Os oes gennych ddiddordeb, rydym yn eich annog i wneud cais cyn gynted â phosibl.

Mae’r cyfweliadau ar gyfer y rôl yn debygol o gael eu cynnal yn ystod wythnos 19 neu 26 Ebrill 2021.

I wneud cais

Uwchlwythwch CV a llythyr egluro. Yn eich llythyr egluro, ymdriniwch â sut mae eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch profiad yn berthnasol i ofynion y rôl.


Yr SRA yw rheoleiddiwr cyfreithwyr a ffyrmiau cyfreithiol Cymru a Lloegr, gan ddiogelu defnyddwyr a chynnal trefn y gyfraith a gweinyddiaeth cyfiawnder. Rydym yn gwneud hyn drwy oruchwylio’r holl anghenion addysg a hyfforddiant sy’n angenrheidiol i ymarfer fel cyfreithiwr, trwyddedu unigolion a ffyrmiau i ymarfer, gosod safonau’r proffesiwn a rheoleiddio a gorfodi’r gydymffurfiaeth â’r safonau hyn.

Rydym yn cynnig amgylchedd gwaith cynhwysol, cefnogol a chyfeillgar a'r cyfle i ddatblygu’ch gyrfa mewn sefydliad proffesiynol. Rydym wedi ymrwymo i iechyd a llesiant y staff, gan helpu pawb i daro cydbwysedd da rhwng bywyd personol a phroffesiynol.

At hynny, rydym yn darparu pecyn hael o fuddion hyblyg, gan gynnwys aelodaeth o gampfa am gost y dreth yn unig, cynllun pensiwn rhagorol â chyfraniadau diffiniedig a 3% o gyflog sylfaenol blynyddol ychwanegol ar ôl ichi gwblhau cyfnod prawf yn llwyddiannus.

The SRA is the independent regulator of solicitors and law firms in England and Wales, protecting consumers and supporting the rule of law and the administration of justice. We do this by overseeing all education and training requirements necessary to practise as a solicitor, licensing individuals and firms to practise, setting the standards of the profession and regulating and enforcing compliance against these standards.
We offer an inclusive, supportive and friendly working environment and the chance to develop your career within a professional organisation. We are committed to the health and wellbeing of staff, helping everyone to strike a good balance between personal and professional life.

Additionally, we provide a generous flexible benefits package, including gym membership with a tax only cost, an excellent defined contribution pension scheme and an additional 3% of annual basic salary upon successful completion of probation.
Vacancy closing date: 14/04/2021, 17:00

The Solicitors Regulation Authority is an Equal Opportunities Employer.

Diversity and inclusion is central to everything we do. We are actively committed to promoting and participating in good practice in the way that we attract, recruit and retain staff.

Everyone is encouraged to bring their whole self to work because we appreciate the value that a truly diverse workforce brings to an organisation. We celebrate difference, recognising the benefits this brings to our inclusive culture, including age, disability, gender identity and expression, religion, race, sex, sexual orientation and socio economic background.

 We are a Stonewall Top 100 Employer, a member of ENEI, a disability confident employer and we are happy to talk flexible working.

This opportunity is closed to applicants.